Gwasanaethau i’r Cartref
Problemau technoleg gwybodaeth yn eich cartref? Cyfrifiadur yn araf? Ar fin lluchio’r cwbl trwy’r ffenest? Cysylltwch â Chyfrifiaduron y Garth. Efallai y gallwn eich helpu.
I gwsmeriaid o fewn ychydig filltiroedd i Fangor gallwn gynnig gwasanaeth ‘ymgodi a dychwelyd’. Byddwn yn casglu’r cyfrifiadur ac yn ei ddychwelyd ar ôl ei drwsio.
Rydym hefyd yn gallu:
Gwella derbyniad Wi-Fi
Cyflenwi a gosod camerau CCTV
Achub data o hen gyfrifiaduron
A llawer, llawer mwy.
Cysylltwch i weld os gallwn eich helpu.