Gwasanaethau i Fusnes
Mae Cyfrifiaduron y Garth yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogi TG i fusnesau, yn cynnwys:
- Diweddaru sustemau TG sydd eisoes yn bodoli
- Rhwydweithio
- Sustemau ‘cefn swyddfa’
- Cymorth ar eich safle
- Adferu data
- Meddalwedd pwrpasol
Mae Huw, perchennog Cyfrifiaduron y Garth, yn Weinyddwr Sustemau profiadol. Fel prif beiriannydd TG Coleg Meirion Dwyfor, rhan o Grwp Llandrillo Menai, roedd Huw yn gyfrifol am gyflenwi gwasanaeth TG i dros 2500 o staff a myfyrwyr. Roedd sustem TG y coleg yn cwmpasu 5 campws, 60 gweinydd, dros 750 o gyfrifiaduron ‘pen-bwrdd’, 60 o argraffwyr a sustem ffon VOIP.
Os hoffech drafod unrhyw ran o’ch gofynion TG cysylltwch â ni.
Gwefannau a Sustemau Ar-lein
Gyda dros 120 o wefannau wedi eu cwblhau mae gennym ni’r profiad i’ch helpu gyda mwy neu lai unrhyw beth ynghlwm a’r we.
Rydym wedi datblygu pob math o wefannau, o rhai eithriadol syml i fynnu at safleoedd cymhleth gyda channoedd o dudalennau cynnwys. Cysylltwch i drafod eich anghenion.