Gwasanaethau Ymgynghori
Mae busnesau blaengar ar draws y byd yn fwyfwy droi at feddalwedd ‘Cod Agored’ er mwyn cynyddu hyblygrwydd a lleihau costau busnes. Mae meddalwedd Cod Agored yn cynnig nifer o fanteision i fusnesau:
- Arbedion ariannol sylweddol
- Rhyddid rhag ‘vendor lock-in’
- Hyblygrwydd gyda defnydd meddalwedd
- Y gallu i addasu meddalwedd.
Mae rhai o gwmnïau enwocaf y byd yn rhedeg bron a bod yn gyfan gwbl ar feddalwedd cod agored. Er enghraifft:
- Amazon
Ymysg y cwmnïau a sefydliadau byd enwog sy’n defnyddio meddalwedd Cod Agored ydi Ford, y BBC, Audi, Sony, Disney, CNN a NASA.
Os mae meddalwedd Cod Agored yn ddigon da i’r cwmnïau anferth yma dychmygwch beth gall yr un dechnoleg wneud ar gyfer eich busnes chi. Cysylltwch i ddarganfod mwy.