Dechreuodd Huw ddatblygu prosiectau TG yn fuan ar ôl gadael BBC Cymru/Wales ym 1995. Yn gyntaf daeth datblygu CD-ROMiau, ac yna ym 1996 gwefannau. Ar y pryd roedd y rhyngrwyd ‘cyhoeddus’ tua thair blwydd oed ym Mhrydain. Ar ôl y cychwyn yma daeth amrywiaeth eang o brosiectau ar-lein yn bennaf. Cymerwyd seibiannau gyrfa o ddatblygu a rhaglennu mewn Gweinyddu Systemau (Linux) a rheoli timau TG. Mae’r rhestr cleientiaid yn amrywio o fusnesau bach a chanolig lleol i gwmnïau rhyngwladol, ynghyd â rhan helaeth o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Y canlyniad yw cefndir helaeth, cyflawn mewn TG gyda dos iach o graffter busnes. Ymhlith yr uchafbwyntiau personol mae datblygu un o'r systemau Rheoli Cynnwys Gwefan (CMS) ddwyieithog cyntaf yn y byd, a helpu nifer sylweddol o fusnesau lleol i lwyddo.